Diben yr adroddiad blynyddol hwn yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i drigolion Conwy. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio dangos sut y gwnaethom hyrwyddo lles a mynd ati i ddarparu safonau lles. Mae’n rhoi gwybod am feysydd lle mae datblygiadau newydd, yn hytrach na thrafod pob agwedd ar ein gwaith, ac yn arfarnu ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau Gofal Cymdeithasol. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol.
Mae blaenoriaethau ein gwasanaeth yn cyd-fynd â’r chwe Safon Ansawdd Genedlaethol ar gyfer canlyniadau lles. Rydym yn dangos sut rydym wedi cyflawni yn y chwe maes hyn drwy roi gwybodaeth am ddatblygiadau, astudiaethau achos, canlyniadau ac ymatebion i arolygon, a mesuryddion perfformiad. Y chwe safon yw:
- Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl am eu cyflawni.
- Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hybu iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol.
- Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.
- Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas.
- Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd iach a diogel yn y cartref, gyda’r teulu ac yn bersonol.
- Gweithio gyda phobl a’u cefnogi i sicrhau gwell lles economaidd, gwell bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.
Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, y cyrff sy’n ein rheoleiddio a Llywodraeth Cymru. Rydym yn meithrin cyswllt yn rheolaidd â’n budd-ddeiliaid ac yn gwerthfawrogi adborth gan y bobl rydym yn ymwneud â hwy, ac mae enghreifftiau o’r adborth hwn i’w gweld drwy gydol yr adroddiad. Mae dyluniad yr adroddiad yn seiliedig ar arddull yr oedd Cyngor yr Ifanc yn rhan o’i ddewis.

Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English