Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Fframwaith Rheoli Perfformiad

Yn y rhan hon, cyflwynir manylion ein perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad isod. Mae’n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad am ein perfformiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r dangosyddion hyn hefyd yn ffordd arall o fesur i ba raddau rydym yn cyflawni pob Safon Ansawdd.

Disgrifiad o’r dangosydd perfformiad2018-192019-20
Canran yr oedolion a gwblhaodd gyfnod ailalluogi a chael pecyn gofal llai dwys (na’r un oedd ganddynt) 6 mis yn ddiweddarach (PMA20a)9.41%5.22%
Canran yr oedolion a gwblhaodd gyfnod ailalluogi ac nad oedd ganddynt unrhyw becyn gofal 6 mis yn ddiweddarach (PMA20b)73.70%83.97%
Canran yr oedolion a gafodd gyngor a chymorth gan y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth oedd heb gysylltu â’r gwasanaeth eto o fewn 6 mis (PMA23)90.79%82.60%
Canran yr asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn yr amserlenni statudol (PMC24)100.00%99.45%
Cyfradd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth dros 75 oed (PMA19)0.661.61
Cyfnod cyfartalog o amser y caiff pobl hŷn (65 oed a hŷn) gymorth mewn cartrefi gofal preswyl (PMA21)703.34 diwrnod704.32 diwrnod
Oedran cyfartalog oedolion sy’n mynd i gartrefi gofal preswyl (PMA22)85.0984.69
Canran y plant sy’n gweld deintydd cofrestredig o fewn 3 mis i fod yn blentyn sy’n derbyn gofal (PMC30)94.12%92.31%
Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gofrestrwyd â Meddyg Teulu o fewn 10 diwrnod gwaith i ddechrau’r lleoliad (PMC31)98.77%97.59%
Canran yr ymholiadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod (PMA18)81.08%84.52%
Canran y plant sy’n cael eu hailgofrestru ar Gofrestr Amddiffyn Plant yr Awdurdod Lleol (PMC27)7.55%0.00%
Cyfnod cyfartalog o amser yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn (PMC28)213.43 diwrnod247.58 diwrnod
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 (PMC29a)54.84%Ddim ar gael
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 4 (PMC29b)4.88%Ddim ar gael
Canran y plant sy’n derbyn gofal sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau pontio, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth (PMC32)5.37%Ddim ar gael
Canran y plant sy’n cael cymorth i barhau i fyw gyda’u teulu ar 31 Mawrth (PMC25)64.86% (ffigurau dros dro)57.50% (ffigurau dros dro)
Canran y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref o ofal yn ystod y flwyddyn (PMC26)9.47% (ffigurau dros dro)8.47% (ffigurau dros dro)
Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn (PMC33)7.69% (ffigurau dros dro)8.91% (ffigurau dros dro)
Canran yr holl bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl gadael gofal (PMC34a)62.86%47.82%
Canran yr holl bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 24 mis ar ôl gadael gofal (PMC34b)37.50%59.09%
Canran yr holl bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd wedi bod yn ddigartref yn ystod y flwyddyn (PMC35)12.23%13.19%

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Dychwelyd i’r dudalen hafan

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2022 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English