Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2013-14
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2018-19
  • Cysylltu

Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud

Ein Gweithlu a Sut Rydym ni’n Cefnogi eu Rolau Proffesiynol

Yn 2016-17 cynhaliwyd dadansoddiad o’r gweithlu a nododd nifer o risgiau:

  • Trosiant uchel o staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau preswyl a gofal cartref yng Nghonwy.
  • Roedd cyfraddau cymwysterau gweithwyr gofal ychydig yn uwch na 50%.
  • Mae’r sector Gofal Cymdeithasol yn profi heriau sylweddol wrth recriwtio staff i’r sector.
  • Roedd gan reolwyr Gofal Cymdeithasol newydd ddiffyg cyfleoedd dysgu i ddatblygu eu sgiliau rheoli.

I liniaru’r risgiau, gwnaethom ymgymryd â’r camau gweithredu a ganlyn:

  • Creu Partneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Conwy; mae’r bartneriaeth wedi’i chefnogi drwy Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector annibynnol, y trydydd sector, y sector cyhoeddus, addysg a darparwyr hyfforddiant.
  • Dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi’r nifer sy’n ymgymryd â’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) yn y gweithlu gofal preswyl a gofal cartref, gan arwain at gynnydd o 11% yn nifer y gweithwyr gofal sydd â chymhwyster cyfredol.
  • Gan weithio gyda darparwyr Gofal Cymdeithasol a Choleg Llandrillo, byddwn yn lansio rhaglen Profiad Gwaith Gofal Cymdeithasol Conwy.
  • Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, rydym wedi darparu rhaglen addysgu rheolwyr newydd.
  • Cefnogi Rhaglen Cam i Fyny i Reoli Cymru Gyfan

Heriau: Mae Partneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Conwy wedi llwyddo i ymgysylltu â darparwyr gofal oedolion. Ond, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ymgysylltu a chynnwys darparwyr gwasanaethau plant o’r trydydd sector.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2014 (RISCA).

Thema sylfaenol gofynion RISCA yw rhoi tystiolaeth o ‘ansawdd’ ym mhob agwedd o ddarpariaeth gwasanaeth. Trwy weithio gyda Choleg Llandrillo rydym wedi datblygu rhaglen ddysgu achrededig ar gyfer rheolwyr Gofal Cymdeithasol. Bydd hyn yn eu galluogi i arddangos pwysigrwydd y broses gwella ansawdd yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol a llesiant, gwella darpariaeth gwasanaethau a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth.

Rydym wedi cynnal gweithdai a briffiau ar draws y sector i sicrhau bod rheolwyr yn hollol ymwybodol o ofynion RISCA.

Heriau: Cefnogi’r sector gofal yn y cartref i ymgymryd â’r cofrestriad. I gyflawni hyn bydd angen i ni ddyrannu rhagor o adnoddau i’r sector ar draul rhaglenni dysgu eraill.

Cyflawni Canlyniadau
I gefnogi’r gweithlu i weithio i’r canlyniadau rydym wedi darparu hyfforddiant canlyniadau a bydd hyn yn parhau drwy gydol 2018. Er bod yr hyfforddiant yn rhoi’r wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i’r gweithiwr i gefnogi darparu canlyniadau, yr her ar gyfer Tîm Datblygu a Dysgu’r Gweithlu yw cefnogi’r sector wrth drosglwyddo dysg yn arferion.  Felly yn 2018, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Darparu sesiynau byr i staff yn canolbwyntio ar ddysgu elfennau allweddol o’r cwrs hyfforddiant – bydd y sesiynau yn rhai byr ac yn cynorthwyo wrth atgyfnerthu’r dysg a gafwyd o’r cwrs hyfforddiant.
  • Ar ôl cwblhau bob cwrs hyfforddiant darparu canlyniadau byddwn yn darparu adroddiad yn crynhoi’r adborth gan hyfforddeion, yr heriau y maent wedi’u wynebu ac yn argymell camau gweithredu i gefnogi trosglwyddo dysg.

Dementia
Rydym wedi comisiynu gweithiwr proffesiynol arweiniol dementia i weithio gyda staff cartrefi gofal i asesu arferion dementia – gan weithio gyda staff, preswylwyr a’r teulu.  Mae’r agwedd o gyflwyno dysg i’r cartref yn hwyluso dysg yn y gweithle, ac yn cynnwys preswylwyr yn y broses ddysgu yn hytrach na’r theori.  Byddwn yn ailymweld â’r cartref y flwyddyn nesaf i asesu lefel y newid ac effaith y newid diwylliant.

Diogelu
Mae cynlluniau newydd yn ystod 2017-18 wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu sylfaenol i wirfoddolwyr yng Nghonwy. Rydym yn cefnogi’r Grŵp Partneriaeth Gofal Plant Datblygiad Blynyddoedd Cynnar i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelu. Mae hyn hefyd yn cefnogi ein targed corfforaethol, bod pobl yn ddiogel ac yn teimlo yn ddiogel, a’r ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod diogelu yn fusnes i bawb.

Heriau: Mae’r gwaith gyda CGGC wedi tynnu sylw at ddiffyg sylweddol ar gyfer y 3ydd sector wrth gael mynediad i hyfforddiant diogelu. Hefyd, pwysleisiodd gwerthusiad y rhaglen hyfforddiant yr angen i hyfforddi’r rhai hynny sy’n rheoli gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod yn hollol ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu. I fynd i’r afael â hyn, rydym wedi comisiynu CGGC i ddarparu hyfforddiant i reolwyr gwirfoddol ac yn ystod Wythnos Diogelu 2019 byddwn yn cynnal digwyddiad Diogelu a Gwirfoddoli ar y cyd gyda CGGC.

Ein hadnoddau ariannol a sut rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol
Er y pwysau ariannol presennol, mae Conwy yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallwn ar gyfer ein preswylwyr.  Mae Gofal Cymdeithasol hefyd wedi gorfod canfod gwerth £2.4m o arbedion yn 2017/18. Rydym yn parhau i ddiogelu darpariaeth gwasanaeth uniongyrchol a cheisio sicrhau gwerth am arian, bod yn effeithlon a pheidio dyblygu.

Ein gwaith partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd penderfyniadau.  Dylai fod yn egwyddor trefnu canolog i ystyried effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd penderfyniadau.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol.  Mae’r 7 nod a 5 ffordd o weithio wedi’u halinio i 8 Canlyniadau Dinasyddion Conwy.

Mae meysydd blaenoriaeth eraill sydd wedi cael eu hystyried yn cynnwys:

  • Creu Cymunedau Cryf Llywodraeth Cymru
  • Symud Cymru Ymlaen
  • Amcanion Lles Llywodraeth Cymru (2016-2021)

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys camau gweithredu sydd yn rhagweithiol nid yn ymatebol, sydd â’r nod o weithio tuag at effaith tymor hirach, wedi cael eu hintegreiddio wrth ystyried sut maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles ac maent yn gydweithredol o ran y ffocws ar weithio’n agos gyda chymunedau – felly maent yn rhan o berchen a gweithio ar y cyd i ddiwallu Canlyniadau Dinasyddion. Mae blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol wedi cael eu hystyried gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych er mwyn edrych lle mae blaenoriaethau yn effeithio ar sefydliadau cyhoeddus eraill a lle mae yna gyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Roedd cymunedau yn rhan o ddatblygu’r blaenoriaethau, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig trwy gysylltu trafodaethau cymunedau lleol drwy ddatblygu cynlluniau lleoedd. Mae ein themâu trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae Cynghorwyr yn herio achosion busnes a gwerthusiadau trefniadau monitro newid i wasanaethau yn gadarn er mwyn asesu bod yr effaith yn effeithiol. Mae proses ymgysylltu â budd-ddeiliaid Conwy yn gynhwysfawr, ac mae’r Cyngor yn adolygu a gwella effeithiolrwydd ei drefniadau gwneud penderfyniadau yn rhagweithiol.  Y llynedd, gwnaethom adolygu ein Swyddogaeth Drosolwg a Chraffu i ystyried a oedd yn dal i weithio yn effeithiol ac i ystyried unrhyw welliannau.  O ganlyniad, mae gan Gofal Cymdeithasol ei Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ei hun bellach.

Rhaglen Integreiddio’r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar y Rhaglen Integreiddio Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg, sy’n cynnwys staff gwasanaeth a budd-ddeiliaid eraill. Mae’r rhaglen wedi’i chynnal dros y 17 mis diwethaf, gyda’r gwaith yn cael ei wneud trwy dasgau neu brosiectau gyda’r nod o gyflawni’r buddion a ganlyn:

  • Staff yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn ymrwymo i un weledigaeth ac un tîm Gofal Cymdeithasol ac Addysg
  • Gwell dealltwriaeth/tryloywder ar draws y gwasanaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau, rolau a swyddogaethau
  • Cydnabod a defnyddio arbenigedd ar draws y gwasanaeth i wella arferion ac i gyflwyno gwelliannau i’r gwasanaeth
  • Cyfrannu at ffyrdd mwy effeithlon o weithio; a thrwy gyflawni’r manteision uchod,
  • Gwella darpariaeth gwasanaeth a deilliannau ar gyfer plant, oedolion a theuluoedd

Er ei bod yn rhy fuan ar hyn o bryd i weld tystiolaeth bod y buddion yn cael eu cyflawni, mae’r newidiadau ar waith yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae’r newidiadau hyn yn amrywio, o arferion ac arbenigedd gwaith ar y cyd, hyfforddiant a rhannu gwybodaeth a lleihau dyblygu, i ddatblygu modelau gwaith newydd i gefnogi teuluoedd. Mae rhai enghreifftiau wedi’u cynnwys isod:

  • Staff yn deall swyddogaethau a chyfrifoldebau ei gilydd yn well ar draws y gwasanaeth, gan ddatblygu perthnasau a chyfleoedd integreiddio.
  • Cydweithio e.e. trwy’r Gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Gwasanaethau Anabledd:
    Hyfforddiant ar y Cyd

Datblygu canlyniadau a chamau gweithredu Gwasanaethau Addysg a Gofal Cymdeithasol ar y cyd.

Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English

Chwilio

Adroddiad 2017-18

Acronymau Cyffredin


Cyflwyniad


Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Safon Ansawdd 2 – Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol


Safon Ansawdd 3 – Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Safon Ansawdd 4 – Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Safon Ansawdd 5 – Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Safon Ansawdd 6 – Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt


Rhagor o Wybodaeth a Dogfennau Pwysig

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

  • Cymraeg
  • English

Copyright © 2019 · Executive Pro Theme on Genesis Framework · WordPress · Log in

  • Cymraeg
  • English