Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2013-14
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 19-20
  • Cysylltu

Sut mae pobl yn dylanwadu ar ein gwasanaethau?

Mae canfod beth sy’n bwysig i bobl yng Nghonwy’n rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac felly gofynnwn am ymatebion gan bobl yr ydym yn ymwneud â hwy, ac yn defnyddio’r wybodaeth a gawn ni yn sail ar gyfer gwella’r gwasanaethau’r ydym yn eu darparu. 

Gydol yr adroddiad hwn fe welwch chi ystadegau ac ymatebion a gafwyd wrth feithrin cyswllt â phobl, yn enwedig o’r Arolwg Dinasyddion a gynhaliwn bob blwyddyn ar ran Llywodraeth Cymru.  Caiff ymatebion o’r arolwg eu cyflwyno gydol yr adroddiad, o dan y safon ansawdd perthnasol, er mwyn dangos sut rydym yn llwyddo wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy.  Byddwn yn mynd ati i wella pethau pan dderbynnir ymateb negyddol, neu pan mae pobl yn awgrymu newidiadau.

Pwy sy’n cymryd rhan yn yr Arolwg Dinasyddion?        

Yn 2018 fe anfonom 1,508 o holiaduron at yr holl Ofalwyr, plant a phobl ifanc a detholiad o oedolion oedd yn derbyn gofal a chymorth gennym.  Anfonwyd copïau o’r holiadur mewn arddull hawdd ei ddarllen at rai pobl ag anableddau dysgu, ac felly rydym yn ymdrin yn wahanol â’r ymatebion i’r rheiny.

Faint o bobl a ymatebodd? 

Dyma grynodeb o’r cyfraddau ymateb:

Pwy?Fe anfonom niDychwelwyd% ymateb
Oedolion72326937%
Gofalwyr23212052%
Phlant a Phobl Ifanc5538515%

O dan y Cod Ymarfer ar gyfer Mesur Perfformiad Gofal Cymdeithasol, mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gasglu data ar ffurf Dangosyddion Perfformiad.  Rydym wedi cynnwys y rhain yn yr adroddiad er mwyn dangos yn ystadegol mor llwyddiannus yr ydym wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy.  Mae Llywodraeth Cymru’n monitro’r dangosyddion perfformiad hyn yn flynyddol.

Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English

Chwilio

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Dychwelyd i’r dudalen hafan

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

  • Cymraeg
  • English

Copyright © 2021 · Executive Pro Theme on Genesis Framework · WordPress · Log in