Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Edrych ymlaen at 2021-22 a thu hwnt

Addasu i fywyd ar ôl Covid-19: Doethwaith 2020

Mae pandemig Covid-19 wedi newid y ffordd y mae llawer o staff gofal cymdeithasol yn gweithio, gyda’r mwyafrif o staff a oedd yn arfer gweithio mewn swyddfeydd bellach yn gweithio gartref. Bydd Doethwaith 2020 yn canolbwyntio ar sut rydym ni’n gweithredu nawr, a sut y bydd hyn yn newid wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yn y dyfodol.  Y weledigaeth ar gyfer y prosiect yw:

  • Symud ymlaen i ddulliau gweithio newydd a mwy cynhyrchiol sy’n creu cyfleoedd ac yn gwella canlyniadau ar gyfer pawb, gan ystyried yr angen i leihau lledaeniad y feirws.
  • Cydbwyso’r weledigaeth uchod yn erbyn yr angen am adferiad cymdeithasol ac economaidd, tra’n rheoli’r risg.
  • Adeiladu ar y ffyrdd newydd o weithio a ddaeth yn amlwg yn ystod y cyfnod clo, a sicrhau bod y rhain yn parhau ar sail hirdymor.
  • Ceisio gwneud pethau’n wahanol yn y dyfodol i gefnogi lleihau carbon, lles staff, darpariaeth gwasanaeth i’r bobl rydym yn eu cefnogi ac ein heffeithlonrwydd fel adran (a sefydliad ehangach).

Ym mis Gorffennaf 2020, gofynnwyd i staff sydd fel arfer yn gweithio mewn swyddfeydd gwblhau arolwg am yr effaith o weithio gartref ers mis Mawrth 2020. Datgelodd yr arolwg bod y mwyafrif o’r staff eisiau parhau i weithio gartref, ond byddent yn hoffi dychwelyd i’r swyddfa am ddiwrnod neu ddau’r wythnos pan mae’n ddiogel i wneud hynny.  Cwblhawyd arolwg dilynol gan staff ym mis Mawrth 2021 i weld os yw eu safbwyntiau wedi newid, neu os ydynt yn dal i ffafrio ffordd gymysg o weithio. Rydym yn aros am ganlyniad yr arolwg hwnnw, fodd bynnag, rydym yn datblygu fframwaith ar gyfer ymgynghoriad pellach ar sut rydym am ddefnyddio gofod swyddfa pan fydd y pandemig wedi dod i ben a byddwn yn gallu dychwelyd i’r swyddfa.

Coed Pella

Byddwn yn canolbwyntio ar les ein cydweithwyr a’n partneriaid, sydd wedi bod yn gweithio dan amgylchiadau anodd a phwysau uchel am fisoedd. Rydym yn ymwybodol o effeithiau cronnol cydbwyso bywyd gwaith a chartref, oriau gwaith hirach, ymateb i argyfyngau’n gyson ond eto’n parhau i ddarparu gwasanaeth i safon uchel.

Bydd sicrhau bod gan ein gweithwyr allweddol fynediad at frechlyn cyfredol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn 2021-22 er mwyn iddynt allu darparu gofal a chymorth yn ddiogel i unigolion diamddiffyn yng Nghonwy.

Newid ein modelau gofal

Fel y nodwyd drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi gorfod meddwl yn wahanol am ddarparu gofal a chymorth i unigolion drwy gydol y pandemig. Mae technoleg wedi cael ei defnyddio’n fwy nag erioed o’r blaen, yn lle cyswllt wyneb yn wyneb, ac rydym wedi defnyddio llai ar ein hadeiladau. Mae gwasanaethau dydd wedi’u cyfyngu neu wedi dod i ben yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod hwn, ac mae wedi cael effaith fawr ar staff gofal cymdeithasol, ein partneriaid a’r unigolion rydym yn eu cefnogi oherwydd bod rhaid newid popeth a oedd yn gyfarwydd i ni.

Mae rhai canlyniadau cadarnhaol wedi deillio o hyn, gydag unigolion yn dewis gwneud y newidiadau’n drefniant hirdymor, gan fod hyn yn gweddu’n well iddynt. Mae pobl yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i deilwra gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion penodol, ar eu telerau eu hunain. Mae teuluoedd yn mwynhau defnyddio Zoom i gynnal cyfarfodydd neu grwpiau cefnogi yn eu cartrefi, heb angen trefnu gofal plant neu gludiant.

Yn sicr bydd unigolion sydd wedi’i chael hi’n anodd iawn yn ystod y cyfnod clo; gofalwyr â sefyllfa gartref a waethygodd o ran dwyster a phwysau, pobl sydd wrth eu boddau’n mynd i ganolfannau dydd i gyfarfod ffrindiau, plant sy’n gweld eisiau eu harferion arferol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r unigolion hyn i roi’r gefnogaeth orau y gallwn iddynt o dan yr amgylchiadau, a phan fydd y cyfyngiadau’n llacio, byddwn yn gallu edrych ar yr opsiynau i ail-gyflwyno cefnogaeth wyneb yn wyneb.

Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl

Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd ar safle Meadow Lodge ym Mae Colwyn, a gafodd ganiatâd cynllunio ym mis Tachwedd 2020. Bydd hyn yn gwneud defnydd gwych o safle adfeiliedig, a bydd y brics, y concrid a’r tarmac yn cael eu defnyddio i adeiladu’r adeilad newydd, a bydd y deunyddiau eraill fel pren a llechi hefyd yn cael eu hadfer a’u hailgylchu ar gyfer y Ganolfan Asesu Plant. Mae’r prosiect yn gydbartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yn caniatáu i weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol gydweithio er mwyn asesu anghenion y plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Ni fwriedir iddo fod yn gartref parhaol i blant, ond mi fydd yn lleoliad y gellir gofalu am blant yn ddiogel, eu cefnogi a’u goruchwylio gan dîm preswyl, a lle mae plant a’u rhieni / gofalwyr yn gallu cwrdd â thîm therapiwtig ar y safle.

Bydd y cyfleuster yn cefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â’r anawsterau maent yn eu hwynebu a datblygu gwytnwch yr uned deuluol, fel na fyddant angen defnyddio gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Bwthyn y Ddol

Gweler isod sylw’r Cyng. Cheryl Carlisle, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd am y cynlluniau:

Bydd ein cynlluniau am Ganolfan Asesu Plant ar y safle hwn yn dod â chymorth a chefnogaeth broffesiynol i un lleoliad ac yn helpu i wella’r canlyniadau i blant a’u teuluoedd.

Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Darpariaeth seibiant newydd cyffrous ar gyfer pobl anabl

Fel y soniwyd eisoes yn yr adroddiad, mae’r gwaith ar ein canolfan seibiant newydd i bobl anabl yn mynd rhagddo ym Mron y Nant, Bae Colwyn. Datblygwyd y ganolfan mewn ymateb i’r cynnydd yn nifer y bobl anabl â gofalwyr sydd angen seibiant yn rheolaidd, bydd gan yr adeilad newydd ofod byw preifat i bawb sy’n aros yno ac ardal gymunedol fawr ar gyfer cymdeithasu. Bydd ei lleoliad yn ei gwneud yn hygyrch i’r rhan fwyaf o bobl ei chyrraedd ac yn hawdd iddynt ddefnyddio’r amwynderau a’r gwasanaethau y maent eu hangen ac yn eu mwynhau yn yr ardal.

Darparwyd y cynlluniau gan Bensaerniaeth Dewis

Mireinio ein system wybodaeth gofal cleientiaid

Nawr bod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn weithredol fel ein system wybodaeth gofal cleientiaid, byddwn yn canolbwyntio ar gynnwys y prosesau cofnodi newydd yn ein llwyth gwaith dyddiol. Byddwn yn parhau i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddwyr y system, yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio ochr yn ochr â ni i sefydliadau partner. Byddwn hefyd yn datblygu ein deunyddiau a sesiynau hyfforddi ymhellach, i adlewyrchu anghenion ein gweithlu, gan geisio sicrhau bod pontio o’n system flaenorol mor ddiffwdan a hawdd â phosibl.

Ym mis Gorffennaf 2021, bydd y system yn cael ei diweddaru felly byddwn yn cynorthwyo defnyddwyr â newidiadau sylweddol i edrychiad a gweithrediad y system, yn cynnwys diweddaru ein deunyddiau hyfforddi.

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Dychwelyd i’r dudalen hafan

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2022 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English